Tîm yr Ymchwiliad
-
Paul Bowen C.F.Ymchwilydd AnnibynnolPaul Bowen C.F.Ymchwilydd Annibynnol
Mae Paul Bowen C.F. (Galw, 1993; CF, 2012) yn fargyfreithiwr yn Siambrau Brick Court ac yn gyn-gyfreithiwr yn Clifford Chance. Mae'n ymarfer ar draws y sbectrwm o gyfraith gyhoeddus a gweinyddol, yn aml gydag elfennau hawliau dynol, yr UE neu gyfraith ryngwladol eraill sylweddol. Mae'n aelod o Banel 'A' y Cwnsleriaid i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ac mae'n Athro Anrhydeddus yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Sussex. Penodwyd Paul yn Gofiadur (barnwr rhan amser) Llys y Goron ym mis Mawrth 2018.
-
Adam WagnerCwnsler yr Ymchwiliad AnnibynnolAdam WagnerCwnsler yr Ymchwiliad Annibynnol
Mae Adam Wagner (Galw, 2007) yn fargyfreithiwr yn Siambrau Doughty Street yn Llundain. Mae wedi gweithredu mewn nifer o ymchwiliadau cyhoeddus mawr ac mae ganddo brofiad helaeth o gwestau a chyfraith hawliau dynol. Caiff ei argymell ar gyfer Cwestau ac Ymchwiliadau, Cyfraith Hawliau Dynol a Hawlfreintiau Sifil a'r Gyfraith Weinyddol Gyhoeddus yn y prif gyfeirlyfrau cyfreithiol. Mae'n adnabyddus am ei waith adfocatiaeth ym maes hawliau dynol ac ef yw sylfaenydd RightsInfo, elusen gwybodaeth gyhoeddus ar gyfer hawliau dynol. Mae'n aelod o Banel 'B' y Cwnsleriaid i'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chyn hynny roedd ar Banel Cwnsleriaid y Twrnai Cyffredinol am bum mlynedd.
-
Charlotte Haworth HirdCyfreithiwr yr Ymchwiliad (ar absenoldeb mamolaeth)Charlotte Haworth HirdCyfreithiwr yr Ymchwiliad (ar absenoldeb mamolaeth)
Charlotte Haworth Hird ar hyn o bryd ar absenoldeb mamolaeth
Mae Charlotte Haworth Hird yn gyfreithiwr yn Bindmans LLP. Mae'n rhoi cyngor a chymorth ar ystod eang o faterion cyfraith iechyd a chyfraith gyhoeddus gan gynnwys cwestau ac iechyd meddwl. Mae ei phractis yn canolbwyntio'n bennaf ar gynrychioli unigolion agored i niwed a'u teuluoedd mewn amrywiaeth o achosion gan gynnwys teuluoedd y mae eu hanwyliaid wedi marw yn y ddalfa neu tra roeddent yng ngofal y wladwriaeth.
Cydnabyddir Charlotte yn y cyfeirlyfrau Chambers & Partners a'r Legal 500 am hawlfreintiau sifil a hawliau dynol, y Llys Gwarchod a gofal iechyd. -
Salima BudhaniCyfreithiwr yr Ymchwiliad (Cyfnod Mamolaeth)Salima BudhaniCyfreithiwr yr Ymchwiliad (Cyfnod Mamolaeth)
Mae Salima Budhani yn gyfreithiwr yn Bindmans LLP. Mae profiad eang Salima yn cynnwys cyfraith gyhoeddus a hawliau dynol, iechyd a gofal cymunedol, hawliau gwybodaeth a chyfraith gwahaniaethu, gyda ffocws arbennig ar gynrychioli pobl agored i niwed neu ar yr ymylon.Cydnabyddir Salima yn Chambers & Partners ar gyfer cyfraith weinyddol a chyhoeddus ac yn Legal 500 ar gyfer cyfraith weinyddol a chyhoeddus, a hawlfreintiau sifil a hawliau dynol.Mae'n un o ymddiriedolwyr Unlock, elusen genedlaethol ar gyfer pobl ag euogfarnau.Mae Salima yn gweithio yn lle Charlotte Haworth Hird sydd ar gyfnod mamolaeth.
-
Molly CoxCynorthwyydd i Gyfreithiwr yr YmchwiliadMolly CoxCynorthwyydd i Gyfreithiwr yr Ymchwiliad
Mae Molly Cox yn gyfreithiwr yn Bindmans LLP.Mae ganddi brofiad o ystod eang o gwynion am yr heddlu a hawliadau iawndal yn erbyn yr heddlu a chyrff eraill y wladwriaeth, gan gynnwys profiad o arestiadau anghyfreithlon, camgarcharu, ymosod a churo, camwaith mewn swydd gyhoeddus, erlyniad maleisus, esgeuluster, tresmasu, gwahaniaethu, torri'r Ddeddf Hawliau Dynol a'r Ddeddf Diogelu Data, ac adolygiad barnwrol.Mae Molly hefyd yn gweithredu ar ran teuluoedd mewn galar mewn cwestau sy'n ymwneud â chyrff y wladwriaeth megis yr heddlu, sefydliadau iechyd meddwl, y gwasanaeth ambiwlans a charchardai.
-
Jim Barron CBEYsgrifennydd yr YmchwiliadJim Barron CBEYsgrifennydd yr Ymchwiliad
Mae Jim Barron yn gyn-uwch was sifil a weithiodd i Swyddfa'r Cabinet am 27 mlynedd. Yn ystod ei yrfa bu'n Ysgrifennydd i sawl corff annibynnol am 11 mlynedd, gan gynnwys Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil a'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Ei swydd ddiweddaraf oedd Prif Weithredwr Swyddfa'r Cwnsleriaid Seneddol. Gadawodd Swyddfa'r Cabinet yn 2016 a bellach mae'n gwneud gwaith adolygu ac ymchwilio i nifer o adrannau'r Llywodraeth. Mae hefyd yn aelod o'r Panel Apeliadau Fetio Diogelwch.